Thumbnail
Llongddrylliadau a Warchodir
Resource ID
8a25d7ef-9318-45ff-bbe5-c68aaf02f816
Teitl
Llongddrylliadau a Warchodir
Dyddiad
Gorff. 11, 2017, canol nos, Creation Date
Crynodeb
1.1 Cefndir Dynodir ‘llongddrylliadau’ o dan Ddeddf Diogelu Llongddrylliadau 1973. Mae llongddrylliadau niferus yn y moroedd o amgylch Cymru. Er bod gwerth hanesyddol i bob un ohonynt, mae chwech yn cael eu diogelu'n gyfreithiol ar hyn o bryd. Gelwir y chwech hyn yn ‘llongddrylliadau dynodedig’ neu ‘longddrylliadau a warchodir’. ‘Llongddrylliad’ yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio rhywbeth sydd wedi cael ei golli ar y môr a gall hyn gynnwys rhywbeth a ddisgynnodd dros ochr llong, rhywbeth a daflwyd dros ochr y llong i'w hysgafnhau, neu'r llong ei hun. 1.2 Amlder Diweddaru Er bod y broses o ddynodi llongddrylliadau’n un barhaus, nid yw'r set ddata gyfredol wedi newid ers nifer o flynyddoedd. Fodd bynnag, er mwyn osgoi ailddefnyddio hen ddata, dylai defnyddwyr gael y fersiwn ddiweddaraf o Lle o dro i dro. 1.3 Darluniadau Nid yw siart sy'n dangos lleoliad Llongddrylliad a Warchodir yn rhan o'r cofnod swyddogol. Lluniwyd y darluniau GIS ar sail y wybodaeth leoliadol yn yr Offeryn Statudol a ddefnyddiwyd i ddynodi'r safle. 1.4 Defnyddio Data Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar y data hwn. Gall derbynyddion ailddefnyddio, atgynhyrchu neu ledaenu'r data am ddim ar unrhyw ffurf neu mewn unrhyw gyfrwng ar yr amod eu bod yn gwneud hynny'n gywir gan gydnabod y ffynhonnell a'r hawlfraint fel y'u nodir (gweler isod), ac nad ydynt yn ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Y derbynnydd sy'n gyfrifol am sicrhau bod y data’n addas i'r diben a fwriedir, nad yw lledaenu neu gyhoeddi'r data’n arwain at ddyblygu, a bod y data'n cael ei ddehongli'n deg. Dylid ceisio cyngor ar ddehongli lle y bo angen. Caiff y data ei wirio'n rheolaidd, ond os ydych yn dymuno trafod y set ddata, cysylltwch â'r Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol (Cadw). Wrth ddefnyddio'r data uchod o dan y Drwydded Llywodraeth Agored, dylech gynnwys y datganiad priodoli canlynol:- Data GIS ar Asedau Hanesyddol Dynodedig, Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol Cymru (Cadw), DYDDIAD [y dyddiad y cawsoch y data gan Cadw], wedi'i drwyddedu o dan y Drwydded Llywodraeth Agored http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg/version/3/ 1.5 Gwybodaeth Arall Mae rhagor o wybodaeth am Longddrylliadau a Warchodir i'w chael ar wefan y Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol (Cadw) drwy ddilyn y ddolen isod: - http://cadw.llyw.cymru/Archeoleg arfordirol a morwrol | Cadw (llyw.cymru) Mae'r disgrifiad o'r Dynodiad ar gael ar-lein yn Cof Cymru Asedau Hanesyddol Cenedlaethol Cymru drwy ddilyn y ddolen isod: - Chwilio cofnodion Cadw | Cadw (llyw.cymru) Cyngor Cyffredinol Mae nodiadau canllaw i bobl sy'n darganfod llongddrylliadau hanesyddol ac i ddeifwyr hamdden ar gael gan Cadw. Mae angen trwyddedau gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru i fonitro, arolygu neu gloddio llongddrylliadau hanesyddol dynodedig.
Rhifyn
--
Responsible
superuser
Pwynt cyswllt
User
superuser@email.com
Pwrpas
--
Pa mor aml maen nhw'n cael eu diweddaru
None
Math
not filled
Cyfyngiadau
None
License
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus
Iaith
en
Ei hyd o ran amser
Start
--
End
--
Gwybodaeth ategol
Ansawdd y data
--
Maint
  • x0: 146525.9359
  • x1: 297041.98620000016
  • y0: 208647.19349999912
  • y1: 394894.6389000006
Spatial Reference System Identifier
EPSG:27700
Geiriau allweddol
no keywords
Categori
Amgylchedd
Rhanbarthau
Global